has gloss | cym: Cymuned ywr uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru. Hyd 1974, rhennid Cymru yn blwyfi sifil at bwrpas llywodraeth leol. Roedd y rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972, diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 or Ddeddf). Amrywia'r cymunedau o rannau o ddinasoedd gyda phoblogaeth sylweddol - y fwyaf o ran poblogaeth yw Y Barri gyda phoblogaeth o 45,053 - hyd at o leiaf ddwy gymuned sydd heb boblogaeth barhaol o gwbl, Bae Baglan a Morfa Margam. |